Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

 

Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad

 

 

 

                                                                                                             

Eich enw:        Ian Medlicott, Swyddog Polisi

 

Sefydliad (os yw'n berthnasol): Cymdeithas Ysgrifenyddion a Chyfreithwyr Cynghorau, Cangen Cymru (“ACSeS”)

 

Cyfeiriad e-bost: ianmed@yahoo.co.uk

 

Rhagarweiniad:

 

Mae Cymdeithas Ysgrifenyddion a Chyfreithwyr Cynghorau (“ACSeS”) yn gorff proffesiynol ar gyfer rheolwyr llywodraethu corfforaethol (swyddogaethau cyfreithiol, gweinyddol, democratiaeth, craffu a safonau) a swyddogion monitro statudol a’u dirprwyon mewn awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.

 

Mae’r Gymdeithas yn chwarae rhan arweiniol mewn datblygu trefniadau llywodraethu mewn llywodraeth leol ac yn gweithio’n agos gyda chymdeithasau eraill, adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth. Mae’r Gymdeithas yn darparu rhwydwaith i’w aelodau i ganiatau trafodaeth, ymgynghoriad, hyfforddiant a datblygiad ar faterion cyfreithiol a llywodraethu.

 

Mae Cangen Cymru o ACSeS yn cynrychioli Penaethiaid Gwasanaethau Cyfrieithiol a Swyddogion Monitro awdurdodau unedol, parciau cenedlaethol, tân ac achub, a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

 

 

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol

 

Cwestiwn 1: A oes angen Bil i wneud newidiadau i gyfansoddiad a swyddogaethau’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ("y Comisiwn") ac i wneud amrywiol ddarpariaethau mewn perthynas â llywodraeth leol?

Oes

 

Nac oes

 

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Nid oes gan ACSeS sylwadau ar y pwynt hwn

 

 

Cwestiwn 2: A ydych o'r farn y bydd y Bil yn gwella’r dull o gyflawni rolau a swyddogaethau statudol y Comisiwn? (paragraff 3.1 o'r Memorandwm Esboniadol)

Ydw

 

Nac ydw

 

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Nid oes gan ACSeS sylwadau ar y pwynt hwn

 

 

Cwestiwn 3: A ydych o'r farn bod y newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r Comisiwn yn briodol? (Rhan 2 y Bil)

Ydw

 

Nac ydw

 

 

Nid oes gan ACSeS sylwadau ar y pwynt hwn

 

 

Trefniadau Llywodraeth Leol

 

Cwestiwn 4: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â gweithdrefnau ar gyfer adolygiadau llywodraeth leol yn briodol? (Pennod 4 a 5)

Ydw

 

Nac ydw

 

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Nid oes gan ACSeS sylwadau ar y pwynt hwn

 

 

Cwestiwn 5: A ydych o'r farn bod y trefniadau ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â:

·        Dyletswyddau'r Comisiwn

·        Dyletswyddau prif gynghorau

yn briodol? (Pennod 1)

Ydw

 

Nac ydw

 

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Nid oes gan ACSeS sylwadau ar y pwynt hwn

 

 

Cwestiwn 6: A ydych o'r farn bod y trefniadau ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â:

·        Pwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd (Adran 56)

·        Pwyllgorau Archwilio (Adran 57)

·        Pwyllgorau Safonau (Adran 63)

yn briodol?

Ydw

 

Nac ydw

 

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

(a)   Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Teimla ACSeS fod rhoi awdurdod statudol i ymestyn y cylch gorchwyl statudol yn addas. Fodd bynnag, bydd angen diwygio adran 16 o Fesur Llywodraeth Leol i adlewyrchu’r pwerau estynedig.

 

(b)   Pwyllgor Archwilio

Mae ACSeS wedi cefnogi hyn yn gryf ers gweithredu’r Mesur

 

(c)   Pwyllgor Safonau

Mae ACSeS yn cefnogi’r pwer i sefydlu cyd-bwyllgorau safonau. Byddai hefyd yn croesawu pwer clir ychwanegol i awdurdod gyfeirio mater i bwyllgor safonau awdurdod arall mewn achosion lle cyfyd anhawster i’r pwyllgor safonau “cartref” ymdrin â’r achos

 

 


 

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

 

Cwestiwn 7: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn briodol? (Pennod 5, Adrannau 58-62)

 Ydw

 

Nac ydw

 

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Cymal 60:

Mae’r newidadau i’r dyddiadau a gynigir yn y cymal hwn fel petaent yn defnyddio Mai (Cyfarfodydd Blynyddol) fel y dyddiad allweddol i awdurdodau lleol er mwyn cyfiawnhau y dyddiadau a gynigir ar gyfer cyhoeddi a gweithredu. Mae hyn yn dybiaeth anghywir, gan mai’r cyfnod allweddol i awdurdodau lleol ydi cyfnod paratoi’r gyllideb (dechrau Rhagfyr) a phenderfynu ar y dreth gyngor a’r gyllideb (Chwefror/Mawrth). Mae gan ACSeS dri sylw:

 

  1. Byddai newid dyddiad yr Adroddiad i 28 Chwefror yn ei gadael yn rhy hwyr i awdurdodau gyllido’n gyfrifol ar gyfer unrhyw benderfyniadau diwygiedig yn yr Adroddiad
  2. Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae gan awdurdodau lai o hyblygrwydd mewn cyllidebau, felly fe all cyfnod ôl-ddyddio o dri mis arwain at anawsterau ariannol wrth weithredu newidiadau
  3. Efallai fod yna gyfiawnhad dros newidiadau hwyr neu ganol-blwyddyn i awdurdod unigol, neu mewn amgylchiadau sy’n galw am adroddiad atodol. Yn yr achosion hyn, bydd cynghorau fel arfer wedi rhagweld y newidiadau, ac wedi cael cyfle i gyllido ar eu cyfer

 

 

Mynediad at wybodaeth (Cynghorau Tref a Chymuned)

 

Cwestiwn 8: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â hwyluso mynediad at wybodaeth (Cynghorau Tref a Chymuned) yn briodol?

Ydw

 

Nac ydw

 

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Adrannau 53 -55:

Yr unig ddadl ydi gyda’r pennawd i’r adrannau hyn. Mae gan y term “Mynediad at Wybodaeth” (“Access to Information”) ddiffiniad yn barod o fewn llywodraeth leol (Rhan VA Deddf Llywodraeth Leol 1972) ac os y’i defnyddir mewn perthynas â chynghorau cymuned fe allai greu disgwyliad ymysg y cyhoedd o hawliau cyfartal i fynediad at ddogfennau; hawliau sy’n bodoli mewn perthynas â phrif gynghorau ond nid mewn perthynas â chynghorau cymuned.

 

Byddai newid y pennawd i “cyhoeddusrwydd i wybodaeth” yn datrys hyn. Mae angen newid tebyg yn y Nodiadau Esboniadol.

 

 


Cadeirio Prif Gynghorau (Cadeiryddion a Meiri Prif Gynghorau)

 

Cwestiwn 9: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â Chadeirio Prif Gynghorau (Cadeiryddion a Meiri Prif Gynghorau) yn briodol?

Ydw

 

Nac ydw

 

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Cymal 51

Mae’r Bil yn cynnwys pwer yng nghymal 51 i wahanu’r rolau “cadeirio cyfarfodydd” a “dinesig”, trwy greu “aelod llywyddol”. Mae’r pennaeth dinesig wedyn naill ai yn “faer” (os oes hawl i ddefnyddio’r term) neu fel arall yn “gadeirydd dinesig”

 

Mae pryder ACSeS ynglyn â thymor mewn swydd aelodau etholedig.

  1. Dywed adran 26 Deddf Llywodraeth Leol 1972 bod tymor cynghorwyr yn dod i ben ar y pedwerydd ddiwrnod ar ôl etholiadau cyffredin.
  2. Dywed adran 22(3) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fod Cadeirydd cyngor yn parhau mewn swydd hyd nes y penodir ei olynydd. Tybiwyd bob amser fod hyn er mwyn sicrhau fod yna Gadeirydd i ddechrau cyfarfod blynyddol cyngor yn gyfreithiol wedi etholiadau. Mae hefyd yn cynnal pennaeth dinesig neu seremoniol, os oes angen un, yn y cyfamser. Hyd yma roedd y gwahaniaeth yn amherthnasol ac ni fu angen cyfarch y pwynt
  3. O ganlyniad i’r cymal yma, nid oes bellach “gadeirydd” at ddibenion adran 22(3) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Nid yw’r Bil Democratiaeth yn cyfarch pwy sy’n cymhwyso ar gyfer yr eithriad adran 22(3) – ai’r “aelod llywyddol” dan gymal 51 ynteu’r maer/gadeirydd dinesig dan gymal 51 – nid yw’r naill na’r llall yn ffitio’r diffiniad o “gadeirydd” yn adran 22(3) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cynigia ACSeS mai’r hyn sydd ei angen yw newid drafftio syml yn y Bil i ddiwygio adran 22(3) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ond mae cwestiwn ynglyn â pha un o’r ddau ddylai gael budd y tymor estynedig – ynteu’r ddau ohonynt?

 

Fe all cynghorau fod angen pennaeth cyfansoddiadol neu bennaeth seremoniol yn y cyfnod rhwng etholiadau a chyfarfodydd blynyddol; byddant yn sicr angen pennaeth cyfansoddiadol ar gyfer y cyfarfod blynyddol, yn arbennig os na wnaeth y Cadeirydd sy’n ymadael (dan y gyfraith bresennol) sefyll etholiad neu na chafodd ei ethol.

 

Gan gymryd y diffiniad o’r tymor mewn swydd a geir yn yr adran 24A (6)(b) newydd yng nghymal 51, mae angen beth bynnag ymestyn tymor yr aelod llywyddol, ond mae yna ddadl y dylai tymor y maer/cadeirydd dinesig gael ei ymestyn hefyd at ddibenion seremoniol.

 

 

 

 

 

 

 

 

Darpariaethau Cyffredinol y Bil

 

Cwestiwn 10: Beth yw'r rhwystrau posibl i roi darpariaethau'r Bil ar waith (os ydynt yn bodoli), ac a yw'r Bil yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt?

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Mae’r pryderon hyn wedi eu trafod mewn mannau eraill yn y ddogfen hon.

 

 

Cwestiwn 11: Beth yw goblygiadau ariannol y Bil, os ydynt yn bodoli? Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae'n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith) sy'n cynnwys amcangyfrif o'r costau a'r buddion sy'n gysylltiedig â rhoi'r Bil ar waith.

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Gweler y sylwadau ar Gwestiwn 7 mewn perthynas â chymal 60 o’r Bil

 

 

Cwestiwn 12: Beth yw eich barn am y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (hynny yw, offerynnau statudol, gan gynnwys rheoliadau a gorchmynion) (adran 5 y Memorandwm Esboniadol)?

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Nid oes gan ACSeS sylwadau ar y pwynt hwn

 

 

 

Cwestiwn 13: A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am rannau penodol o'r Bil?        

 

1. Cymal 66(1) Dehongli

Er eglurder, dylid ychwanegu’r geiriau  “…yng Nghymru” at y diffiniad o “awdurdod lleol”

 

2. Tymor mewn swydd aelodau o bwyllgorau safonau sy’n gynghorwyr:

 

Teimla ACSeS y byddai o gymorth i weinyddiaeth effeithlon pwyllgorau safonau pe bai tymor penodiad aelodau o’r pwyllgorau safonau sy’n gynghorwyr yn cyd-redeg gyda thymor mewn swydd am y tro y cynghorydd hwnnw, yn hytrach nag am bedair blynedd, ac y dylid gweithredu’r rheol hon ar gyfer deiliaid presennol.

 

Byddai hyn yn cyfarch y sefyllfa lle mae dyddiad etholiadau cyffredin prif gyngor wedi ei ohirio am flwyddyn, fel sydd wedi digwydd yn bresennol.

 

3. Mynychu o bell, adran 4 Mesur Llywodraeth Leol 2011:

Mynegodd ACSeS bryderon pan gafodd y Mesur ei graffu ynglyn â’r goblygiadau cyfreithiol o golli cysylltiad yn ystod cyfarfod cyngor gydag un neu ragor o gynghorwyr oedd yn mynychu o bell. Ni chafodd y materion hyn eu cyfarch yn y Mesur, ac mae ACSeS yn bryderus iawn y dylid cyfarch y canlyniadau cyfreithiol (ac o bosib cyllidol difrifol).

 

Ni ellir cyfarch y materion hyn yn ddigonol trwy Reolau Sefydlog awdurdod, a rhaid eu cyfarch mewn statud.

 

Mae’r Bil hwn yn cynnig cyfle delfrydol i ddiwygio’r Mesur i gyfarch y materion hyn, ac anogir aelodau’r Cynulliad yn gryf i gymryd y cyfle hwn i ddeddfu er mwyn osgoi’r canlyniadau.

 

Dyma’r materion i’w cyfarch:

i)                    Nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur yn ymdrin â dilysrwydd (neu beidio) penderfyniad a gymerwyd mewn cyfarfod lle y collir cyswllt gydag aelod neu aelodau sy’n mynychu o bell. Dylai’r ddeddfwriaeth ddatgan a ellir cymryd penderfyniad yn “absenoldeb electroneg” aelod neu aelodau, ac os y caniateir hynny, yna dylid eithrio hawl aelod sydd wedi ei ddifreinio i gwyno neu herio

ii)                  Byddai’n well gan ACSeS ddarpariaeth statudol sy’n caniatau i’r cyngor barhau i gymryd penderfyniad, gyda’r aelod sy’n mynychu o bell yn cael ei drin fel bod yn absennol o’r cyfarfod. Mae ACSeS o’r farn hon oherwydd y canlyniadau difrifol posib i awdurdod o:

(a)   fethu â chymryd penderfyniad lle mae amser yn gritigol (e.e. penderfyniad ar y dreth gyngor neu benderfyniad yn effeithio ar ymgyfreithiad); neu

(b)   benderfyniad annilys posib gan bwyllgor rheoleiddio (cynllunio neu drwyddedu)